Y Cynllun Mentora Cymheiriaid

Mae'r Cynllun Mentora Cymheiriaid yn ychwanegiad cyffrous ac arloesol i'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd ar gael ar hyn o bryd. Fel un o gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru gyfan, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, diben y Cynllun Mentora Cymheiriaid yn gyffredinol yw annog, cefnogi a galluogi defnyddwyr cyffuriau ac alcohol, a'r rheini sydd wedi bod yn ddefnyddwyr, i fod yn economaidd annibynnol drwy gael gwaith cynaliadwy. 

  Drugaid yw'r brif asiantaeth mewn consortiwm sy'n cyflwyno'r rhaglen hon ledled Rhondda Cynon Taf/Merthyr Tudful a Chaerffili/Torfaen/Blaenau Gwent; yr asiantaethau sy'n bartneriaid yw TEDS, Kaleidoscope a GAP

Mae tîm o Fentoriaid Cymheiriaid wedi cael eu cyflogi i gynnig cymorth unigol a dwys i bobl sy'n cael eu cyfeirio at y cynllun. Er mwyn sicrhau eu bod yn gallu bodloni anghenion amrywiol defnyddwyr y gwasanaeth, mae pob un ohonynt wedi mynychu rhaglen hyfforddiant 12 wythnos bwrpasol wedi'i hachredu gan Agored Cymru; derbyniodd y darpar Fentoriaid Cymheiriaid gwirfoddol yr hyfforddiant hefyd, a fydd yn cael ei ailadrodd o fis Ebrill 2010 ymlaen.

Yn ogystal â hyfforddiant perthnasol ar gyfer y Cynllun Mentora Cymheiriaid, mae'r Mentoriaid Cymheiriaid hefyd wedi dilyn wythnos o weithgareddau anwytho ac adeiladu tîm dwys, ac mae rhaglenni hyfforddiant a datblygiad unigol yn cael eu trefnu er mwyn ymestyn a chyfnerthu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u harbenigedd.

Ceir amrywiaeth ardderchog o sgiliau ymhlith staff y Tîm Mentora Cymheiriaid. Mae dros hanner y Mentoriaid Cymheiriaid wedi defnyddio'r gwasanaeth eu hunain. Yn ogystal â'r Mentoriaid Cymheiriaid, mae'r tîm yn cynnwys Goruchwylwyr Gwaith Achos profiadol, Gweithwyr Hyfforddiant a Chyflogaeth, Gweinyddwr a Rheolwr Gwasanaeth.

Mae'r Cynllun Mentora Cymheiriaid yn gynllun mynediad agored sydd â'r nod o ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar sy'n galluogi'r rheini sy'n rhan o'r cynllun i edrych ar eu hanghenion, eu nodau a'u dyheadau. Ar ôl canfod pa gymorth y bydd ei angen arnynt i gyflawni'r nodau hynny, bydd Mentoriaid Cymheiriaid yn eu cynorthwyo ac yn eu cefnogi drwy bob cam, gan hwyluso'u mynediad at raglenni sydd â'r bwriad o gynyddu eu hyder a'u hunan-barch yn ogystal â datblygu'r sgiliau hanfodol y mae eu hangen ar gyfer gwaith.

Mae rhwydweithiau'n cael eu sefydlu a'u datblygu gydag amrywiaeth eang o fudiadau sy'n cynnig Addysg a Hyfforddiant, a lleoliadau Gwirfoddoli hefyd, er mwyn agor y drysau i'r cyfleoedd y bydd eu hangen ar y rheini sy'n rhan o'r cynllun i baratoi at fyd gwaith. Prif nod y Cynllun Mentora Cymheiriaid yw cefnogi'r rheini sy'n rhan ohono i gael gwaith cyflogedig. Fodd bynnag, mae arweiniad priodol, cefnogaeth a dealltwriaeth, yn ogystal â hyfforddiant ac addysg, yn hanfodol er mwyn cynorthwyo'r rheini sy'n defnyddio gwasanaeth y Cynllun i fod yn barod ar gyfer byd gwaith.

Mae ffurflenni cyfeirio ar gael i asiantaethau ac i weithwyr proffesiynol. Fodd bynnag, mae croeso i rywun gyfeirio ei hun, a chroesewir hefyd gyfeiriadau gan deulu, ffrindiau ac unigolion sy'n pryderu am rywun sy'n defnyddio cyffuriau, neu'n dioddef effaith hynny.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Mentora Cymheiriaid, mae angen i unigolion fod yn 18 oed neu'n hŷn ac yn byw yn un o'r ardaloedd y mae'r cynllun yn darparu ar eu cyfer.


I gael eu derbyn ar y Cynllun, mae'n ofynnol bod y canlynol yn berthnasol i'r unigolion.

  • Mae ganddynt broblem camddefnyddio sylweddau yn awr, neu roedd ganddynt broblem yn y gorffennol
  • Maent wedi ymatal neu bellach yn sefydlog yn eu defnydd o gyffuriau a/neu alcohol
  • Maent wedi ymrwymo i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu ffordd o fyw
  • Mae ganddynt y cymhelliant i fanteisio ar ymyriadau priodol er mwyn  cyflawni eu nodau personol
  • Maent yn barod i gydymffurfio â gofynion y Cynllun

Er mwyn sicrhau llwyddiant y cynllun newydd a chyffrous hwn, mae angen iddo gael ei integreiddio ac mae angen iddo weithio mewn partneriaeth a darparwyr gwasanaeth sy'n bodoli eisoes. Nod y Cynllun Mentora Cymheiriaid yw ategu a gwella darpariaeth y gwasanaeth, gan sicrhau cynifer a phosib o ganlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Gall y Cynllun Mentora Cymheiriaid ddarparu gofal effeithiol drwy'r cynllun yn ogystal ag ôl-ofal - rhywbeth sydd, yn hanesyddol, yn anodd cael gafael arno i'r rheini sy'n sefydlog ar ôl camddefnyddio sylweddau, ac yn dymuno gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Bydd y cyfle i gyfeirio unigolion sydd bellach yn sefydlog a/neu wedi ymatal at wasanaeth sy'n gallu cynnig cymorth sy'n seiliedig ar anghenion, arweiniad a chymorth ymarferol yn eu taith at annibyniaeth economaidd hefyd yn cynyddu capasiti yn y gwasanaethau sy'n rhoi triniaeth.